Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Emrys ap Iwan

Prydau Ysgol / Prydau Ysgol am Ddim

Mae Ysgol Emrys ap Iwan yn 'Ysgol Iach' ac yn dilyn canllawiau statudol 'Bwyta'n Iach mewn Ysgolion a Gynhelir' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Darperir prydau ysgol gan Shire Catering sy'n cynnig amrywiaeth eang o fwyd o ansawdd uchel i'w werthu ar amser brecwast, egwyl a chinio.

Sut i dalu am brydau ysgol

Mae bwyty'r ysgol yn gweithredu system ddi-arian. Gallwch naill ai dalu bob dydd neu bob wythnos am brydau ysgol gan ddefnyddio WisepayMantais o ddefnyddio'r system hon yw y byddwch hefyd yn gallu gweld beth mae'ch plentyn yn ei fwyta bob dydd. Mae mwy o wybodaeth am WisePay ar gael yma.

O fis 28 Ebrill 2025, pris prydau ysgol yw £3.40.

Cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim

Mae prydau ysgol am ddim ar gyfer rhieni / gofalwyr y mae eu plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Conwy ac yn derbyn o leiaf un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm*
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm*
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith ac nad yw incwm blynyddol eich aelwyd, yn unol ag asesiad Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yn uwch na £16,190
  • Cefnogaeth o dan Rhan VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen Warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm*
  • Credyd Treth Gwaith parhaus – y taliad y gall rhywun ei gael am bedair wythnos arall ar ôl iddynt beidio â bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol gydag enillion net blynyddol o ddim mwy na £7400

*Mae myfyrwyr sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm neu Gredyd Cynhwysol gyda chyfyngiad enillion net blynyddol o £7400 drwy eu hawl eu hunain hefyd yn gymwys.

 

Os yw eich plentyn / plant eisoes yn cael Prydau Ysgol Am Ddim, nid oes gofyn i chi lenwi ffurflen gais bob blwyddyn, oni bai fod eich amgylchiadau yn newid.

Gwneud cais

Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais am brydau ysgol am ddim, cwblhewch y ffurflen gais ar-lein drwy Sir Conwy: