Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Emrys ap Iwan

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dysgu gyda Satchel:One

Rydym o'r farn bod gwaith cartref yn rhan bwysig o addysg pob dysgwr. Wrth wneud gwaith cartref mae dysgwyr yn dysgu gweithio'n annibynnol, cwrdd â therfynau amser ac i reoli eu hamser. Maent hefyd yn adeiladu ar y sgiliau y maent wedi'u dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Beth yw Satchel:One?

Mae Satchel: One yn galendr gwaith cartref syml ar-lein sy'n dangos gwybodaeth gwaith cartref, terfynau amser ac atodiadau i ddysgwyr. Bydd gwaith cartref pob dysgwr yn cael ei arddangos ar-lein gan ddefnyddio Satchel:One. Manteision y system i rieni yw y gallwch weld yn union faint o waith cartref sydd wedi'i osod, pryd y mae i fod i mewn ac a yw wedi'i gwblhau ai peidio.

Bydd pob rhiant yn cael mewngofnodi i wirio'r gwaith cartref sydd wedi'i osod ar gyfer eu plentyn. Trwy fewngofnodi, gallwch chi a'ch plentyn weld y gwaith cartref sy'n berthnasol i chi yn unig. Gallwch adolygu amseroedd cyflwyno, gweld graddau a chyfathrebu ag athrawon ynghylch aseiniadau penodol.

Log in

 

Am erthyglau, help a chyngor ar gyfer cael y gorau o 'Satchel:One' ewch i'w canolfan gymorth.

Satchel:One App

Mae'r Satchel:One App ar gael i'w lawrlwytho o: